CROESO

CROESO

Annwyl Rieni,
Diolch am gymryd yr amser i ymweld a’n gwefan Blogger newydd sy’n anelu at roi darlun bychan o’n hysgol. Mae dewis yr Ysgol gywir i’ch plentyn yn hanfodol bwysig: efallai'r dewis pwysicaf rydych wedi’i wneud eto fel rhiant.

Fel rhieni, rydym oll eisiau rhoi’r cychwyn gorau bosibl i’n plant mewn bywyd sy’n cynnwys eu darparu â’r addysg orau bosibl.  Rydym eisiau i’n plant dyfu a theimlo eu bod yn cael eu haddysgu mewn amgylchedd sy’n hapus a diogel. Man ble gall ein plant deimlo eu bod o werth ac yn cael cyfle i dyfu fel pobl ifanc – yn emosiynol, yn gorfforol, yn foesol ac yn bwysicach, yn addysgol.

Yn Ysgol Pant y Rhedyn, credwn y gallwn gynnig yr oll o’r profiadau hyn i blentyn. Mae plant yn cael eu haddysgu a’u cefnogi gan dîm ymroddedig o staff sy’n gweithio’n ddiflino i greu amgylchedd addysgu a dysgu ardderchog. Rydym yn ysgol sy’n hyrwyddo pob agwedd o ddysgu mewn amgylchedd hapus, diogel ac sy’n meithrin. Rydym yn ysgol ble mae dysgu o ansawdd yn digwydd bob amser.  Rydym yn falch o’r rhaglen addysg eang, gytbwys a llawn rydym yn ei ddarparu yng Nghyfnod Allweddol 2. Yr ydym yr un mor falch o’r ethos a’r awyrgylch sy’n amlwg ymhob agwedd o fywyd yr ysgol; mae cyfeillgarwch, parch a chydweithio yn bwysig i ni gyd.

Mae sawl ymwelydd â’r ysgol wedi sylwi ar y croeso cynnes maent yn ei gael a chwrteisi ein disgyblion. Rydym yn gwerthfawrogi ein disgyblion a chredwn y dylai eu hamser yn yr ysgol fod yn llawn gwobr. Mae croeso i bawb yn yr ysgol ble gwneir ymdrech bwriadol i sicrhau awyrgylch ‘deuluol’ ac i gynnwys pawb yn ein gweithgareddau. Felly rydym yn gobeithio y bydd pob disgybl yn hapus yma a bydd rhieni a staff yn cydweithio’n glos â’i gilydd i gyflawni’r nodau hyn.

Edrychaf ymlaen at eich cyfarfod yn fuan, ond yn y cyfamser, cysylltwch â mi yn yr ysgol, unrhyw bryd, pe bai gennych ymholiadau.
Gyda llawer o ddiolch am eich cydweithrediad ac ymddiriedaeth.
Yn gywir – ar ran y staff a’r corff llywodraethol,
Matthew Jones (Pennaeth)

 

No comments:

Post a Comment

Note: only a member of this blog may post a comment.

CONTACT US/MANYLION CYSWLLT

Ysgol Pant y Rhedyn
Ffordd Penmaenmawr Rd
Llanfairfechan
Conwy
LL330PA
Tel/Ffon:-01248 680642

ebost/email:-
pennaeth@pantyrhedyn.conwy.sch.uk